
Lles Natur
Gwella Iechyd a Lles trwy Natur
Croeso
Gall cysylltu â natur a bod yn egnïol yn yr awyr agored wella iechyd a lles pobl.
Mae tystiolaeth sylweddol i ddangos bod y manteision a’r canlyniadau cadarnhaol yn cynnwys rheoli pwysau’n well, helpu i atal clefydau cronig, megis diabetes Math 2 a gorbwysedd, a gwella iechyd a lles meddyliol drwy leihau straen a phryder. Mae gweithgareddau awyr agored cymunedol hefyd yn hyrwyddo ac yn creu cysylltiadau cymdeithasol ag eraill, gan gefnogi a gwella lles eto.
Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am y cyfleoedd a ddarperir gan grwpiau a sefydliadau ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili i bobl fod yn fwy egnïol yn yr awyr agored a mwynhau eu mannau gwyrdd er budd lles ac iechyd. Yn ogystal ag annog pobl i fynd allan yn anffurfiol yn eu hardaloedd eu hunain, rydym am i bobl ddeall beth sydd ar gael ac ymhle.
Mae’r partneriaid hyn hefyd wedi ffurfio Rhwydwaith Lles Natur newydd ar draws y fwrdeistref sy’n cydweithio â meddygon teulu, gweithwyr iechyd proffesiynol, ac asiantaethau cymorth perthnasol sy’n gallu atgyfeirio pobl, fel a lle bo’n briodol, i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, seiliedig ar natur.
Darparwyr
Mae Rhwydwaith Lles Natur yn cynnwys y sefydliadau isod, gyda mwy yn cael eu hychwanegu. Mae pob dolen yn arwain yn uniongyrchol at wefan y darparwr.
Coed Lleol
Gweithgareddau iechyd a lles coetir i helpu i anadlu bywyd i'ch enaid, tra'n gofalu am yr amgylchedd.
Mannau Gwyrdd Caerffili
Nid oes lle gwell na'r awyr agored ar gyfer awyr iach ac ymarfer corff. Ewch allan a darganfod!
Awyr iach dydd Gwener
Mynd â phobl allan fel eu bod yn teimlo'n dda y tu mewn. Helpu i gefnogi lles meddyliol ac emosiynol.
Groundwork Wales
Creu cymunedau cryfach, iachach, busnes cyfrifol a gwell rhagolygon i bobl leol.
Growing Space
Yn cwmpasu ystod o sgiliau garddwriaeth, galwedigaethol a chyflogadwyedd yng Nghanolfan Adnoddau Hafod Deg.
Ymddiriedolaeth Natur Gwent
Diogelu bywyd gwyllt ac adfer lleoedd gwyllt ledled Gwent, gyda chefnogaeth rhwydwaith cynyddol o bobl.
Ysbryd Natur - Cymunedau Llewyrchus CBC
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wahanol weithgareddau sy'n seiliedig ar natur sy'n eich galluogi i ddewis sut rydych chi am weld buddion adferol ac iachusol gweithgareddau symud ac ymwybyddiaeth ofalgar ym myd natur gyda phobl eraill o'r un anian.
Gwirfoddolwyr CV19 Rhisga
Rydyn ni'n meithrin, rydyn ni'n tyfu, rydyn ni'n rhannu ac rydyn ni'n cysylltu. Wedi ymrwymo i greu cymunedau grymus a chadarn.
Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Cysylltu pobl â mentrau awyr agored a phrosiectau cymunedol i greu dysgu hamdden a sgiliau.