Mae Rhwydwaith Lles Natur yn cynnwys y sefydliadau isod gyda mwy yn cael eu hychwanegu.
Cliciwch ar enw am ragor o fanylion - mae pob un yn agor gwefan y sefydliad.
Coed Lleol
Gweithgareddau iechyd a lles coetir i helpu i anadlu bywyd i'ch enaid, tra'n gofalu am yr amgylchedd.
Mannau Gwyrdd Caerffili
Nid oes lle gwell na'r awyr agored ar gyfer awyr iach ac ymarfer corff. Ewch mas i ddarganfod beth sydd o'ch cwmpas!
Awyr Iach Dyddiau Gwener
Mynd â phobl allan fel eu bod yn teimlo'n dda y tu mewn. Helpu i gefnogi lles meddyliol ac emosiynol.
Routes2Life - Groundwork Cymru
Mae Routes2Life yn rhoi cyfle i fuddiolwyr o bob oed ddysgu a datblygu ystod o sgiliau ymarferol a garddwriaethol yng nghefn gwlad, gan gynnwys gwrychoedd, strimio, ffensio, garddio, tocio a thyfu ffrwythau a llysiau.
Growing Space
Mae Growing Space yn cynnig amrywiaeth o sgiliau garddwriaeth, galwedigaethol a chyflogadwyedd yng Nghanolfan Adnoddau Hafod Deg, Rhymni a Thŷ Siriol, Caerffili.
Ymddiriedolaeth Natur Gwent
Diogelu bywyd gwyllt ac adfer lleoedd gwyllt ledled Gwent, gyda chefnogaeth rhwydwaith cynyddol o bobl.
Ysbryd Natur - Cymunedau Llewyrchus CBC
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wahanol weithgareddau sy'n seiliedig ar natur sy'n eich galluogi i ddewis sut rydych chi am weld buddion adferol ac iachusol gweithgareddau symud ac ymwybyddiaeth ofalgar ym myd natur gyda phobl eraill o'r un anian.
Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru
Rydyn ni'n meithrin, rydyn ni'n tyfu, rydyn ni'n rhannu ac rydyn ni'n cysylltu. Wedi ymrwymo i greu cymunedau grymus a chadarn.
Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Cysylltu pobl â mentrau awyr agored a phrosiectau cymunedol i greu dysgu hamdden a sgiliau.
Crwydrwyr CRU
Grŵp cymysg sy'n cerrded bob Dydd Llun lle gallwch chi gymdeithasu a mynd allan i'r awyr agored. Ymunwch a ni!
Inside Out Cymru
Elusen Celfyddydau ac Iechyd Meddwl yw Inside Out Cymru sy’n darparu gweithdai a gweithgareddau celfyddydol ledled Gwent.
Cerddwyr Cymdeithasol Rhymni
Mae Cerddwyr Cymdeithasol Rhymni yn cyfarfod ar fore Gwener bob wythnos - mwynhewch lwybrau lleol a rhai ychydig ymhellach i ffwrdd yn ogystal â llwybrau darganfod natur rheolaidd. Croeso cynnes iawn i bawb, boed yn brofiadol neu newydd ddechrau mynd allan.
Cerddywr Cymdeithasol Tredegar Newydd
Grŵp newydd sy’n mwynhau cerdded a chymdeithasu bob bore dydd Mawrth gyda rhai gweithgareddau darganfod natur rheolaidd yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Taith Gerdded Stori Treftadaeth Rhymni
Dewch i ddarganfod mwy o straeon hynod ddiddorol am dreftadaeth ryfeddol Rhymni a'r ardal leol mewn cwmni gwych bob dydd Iau. Croeso i bawb!
Taith Gerdded a Sgwrs Awyr Agored Bargod
Taith gerdded fisol (dydd Mawrth cyntaf bob mis) trwy Barc Coetir Bargod gyda Platfform a gefnogir gan Coffi Big Dog . Gwych ar gyfer eich iechyd meddwl a lles!
Cerddwyr Penallta
Taith gerdded wythnosol i fwynhau hyfrydwch Parc Gwledig Parc Penallta mewn cwmni da gydag uchafbwyntiau fel Sultan - Merlyn y Pwll a golygfeydd gwych.
Cerddwyr Glan -y-Nant
Dwy daith gerdded gymysg dros y penwythnos o Bengam, un yr un ar ddydd Sadwrn ac un ar ddydd Sul - cyfarfod y tu allan i'r becws
Grŵp Cerdded Sant Ioan
Dewch am dro gyda Grŵp Cerdded Sant Ioan, Nelson. Croeso i bawb - bob prynhawn dydd Iau.
Cerddwyr Pengam
Grŵp hirsefydlog croesawol sy’n cwrdd ym Mharc Coetir Bargoed bob dydd Iau (dechrau ym maes parcio Pengam - dewch draw)
Dynion Cerdded Siarad
Grŵp i helpu i roi diwedd ar stigma iechyd meddwl a lles dynion ardal Caerffili a thu hwnt! Teithiau cerdded dydd Sul yn cychwyn am 9.30.
Strollers Glan yr Afon Bedwas
Mae Cerddwyr Glan yr Afon Bedwas yn cyfarfod bob prynhawn dydd Mawrth am 2 pm ym Maes Parcio'r Fisherman's Rest ym Medwas am awr o gerdded ym myd natur. Dewch i ymuno â ni.
Cerdded a Siarad Rhisga
Cyfle gwych i gwrdd â phobl newydd chael sgwrs wrth fwynhau taith gerdded leol.
Sesiynau bob dydd Mawrth, 10.30am yn cyfarfod yng Nghanolfan Hamdden Rhisga
Gerddi Tarragan
Mae Taraggan yn dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd, gan eu helpu i ddysgu sgiliau rhandir a garddio, tyfu cynnyrch organig gwych, a chysylltu â byd natur.
Ffau Dynion CRU, Rhymni
Mwynhewch sesiwn wythnosol bob prynhawn dydd Mawrth gyda chwmni gwych yn Ffau'r Dynion ym Mharc Coffa Rhymni.
Mynwent Eglwys Dewi Sant, Rhymni
Ger Eglwys Dewi Sant, un o’r adeiladau Neoglasurol mwyaf diddorol yn ne Cymru, mae’r fynwent yn cynnig prosiect i ymwneud â chreu lle ar gyfer treftadaeth a natur.
Eco-Parc Cefn Fforest
Wedi'i adfywio o domenni glo, mae'r Eco-Parc wedi'i feithrin ac mae Cyfeillion yr Eco-Parc yn gofalu amdano. Beth am gymryd rhan?
Cerdded Nordig Caerffili
Ymarfer cardio a chorff gwych, mae teithiau cerdded Nordig gyda Hyfforddwr Cerdded Nordig Prydeinig cymwys yn digwydd bob wythnos rhwng 11 am a 12.30 pm ar ddydd Mercher, sy'n cylchdroi rhwng Wyllie, Pengam, Cwmgelli (Coed Du), a Phontywaun (camlas)
Rhandiroedd Van Ward
Mae Van Allotments yn dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd, gan eu helpu i ddysgu sgiliau rhandir a garddio, tyfu cynnyrch organig gwych, a chysylltu â byd natur. Maent hefyd yn cynnig taith gerdded wythnosol yn Natur mewn gwahanol leoliadau ar draws De Cymru gyda chludiant am ddim.
Dicky Tickers
Mae'r Dicky Tickers o YMCA Bargod yn grŵp cymunedol sydd wedi'i anelu'n bennaf at gefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o fethiant y galon. Bob mis mae’r grŵp yn mynd ar daith natur sy’n agored nid yn unig i aelodau ond unrhyw un sydd eisiau gwella iechyd eu calon.